
CEFNOGI YSGOLION CYMRU TRWY WEDDI
Mae Gweddi Dros Ysgolion Cymru yn annog a chefnogi Cristnogion ledled Cymru i weddïo dros eu hysgolion lleol
YR ANGEN I WEDDÏO DROS YSGOLION MAE
GWEDDI YN NEWID PETHAU. MAE’N GWNEUD GWAHANIAETH

MAE MILOEDD O BLANT CYMRU YN YR YSGOL BOB DYDD
Fel Cristnogion, rydym am fendithio ein hysgolion drwy weddïo drostyn nhw – gofyn am ffafr Duw ar bawb sy’n ymwneud ag ysgolion: dysgwyr, rhieni, staff a gwirfoddolwyr – gan gofio mai’r bobl ifanc yw oedolion yfory.
MAE GAN YSGOLION DDYLANWAD ENFAWR
Mae plant a phobl ifanc yn treulio’r rhan fwyaf o’r oriau maen nhw’n effro yn yr ysgol. Gwyddom fod ysgolion yn dylanwadu ar eu hagweddau, eu syniadau a’r ffordd maen nhw’n meddwl am eu hunain, y byd, a Duw. Mae rhai yn ffynnu ac yn llwyddo. Mae eraill yn ei chael yn anodd, yn brwydro yn erbyn tlodi ac anghenion cefnogaeth ychwanegol. Mae pob un wedi’i greu ar lun a delw Duw.


WNEWCH CHI WEDDÏO DROSTYN NHW?
A wnewch chi ymrwymo heddiw i weddïo dros eich ysgol leol? Gallwch weddïo mewn ffordd sydd yn addas i chi, fel unigolyn, fel eglwys neu grŵp gweddi. Gallwch weddïo dros yr holl ysgolion yn eich ardal, neu hyd yn oed dros ysgolion ledled Cymru.
Dywedodd Iesu,
“Gadewch i’r plant ddod ataf fi”
Marc 10:14, BCMD
Pan weddïwn, rydym yn dod â’r plant a’u hysgolion at Iesu.
‘Mae eich gweddïau wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn ein hysgol.’
Pennaeth ysgol uwchradd yn Ne Cymru
COFRESTRU’R YSGOLION RYDYCH CHI’N GWEDDÏO DROSTYN NHW
Trwy gofrestru eich gweddïau dros ysgol rydych chi’n ymuno â rhwydwaith sy’n ymestyn drwy Gymru gyfan. Byddwn wedyn yn eich hysbysu am ddigwyddiadau gweddi a newyddion. Os hoffech gysylltu â phobl eraill sy’n gweddïo dros yr un ysgol â chi, ticiwch ‘Cysylltu’. Bydd y ‘Map ysgolion sydd â rhai’n gweddïo drostyn nhw’ yn dangos i chi os oes rhai’n gweddïo dros eich ysgol.
Os nad oes, pam na ddechreuwch grŵp gweddi ysgol, gan wahodd disgyblion, rhieni, neiniau a theidiau, ffrindiau eglwys? Mae rhai grwpiau gweddi ysgol eisoes yn cyfarfod mewn gwahanol lefydd ledled y wlad. Byddent wrth eu boddau pe byddech chi’n ymuno â nhw!
Eglwysi Lleol
Anogwch eich eglwys i weddïo dros ysgolion lleol a rhannu’r wybodaeth gydag eglwysi eraill yn yr ardal i wneud yr un peth neu hyd yn oed ymuno â chi.
Diffyg man i weddïo?
Pam ddim dechrau ‘Grŵp Cerdded Gweddi’ neu ofyn i’r ysgol os gallwch weddïo ar eu safle, rydym eisoes yn gweld drysau yn agor yn y ffordd hon.
Beth ddylwn i weddïo amdano?
Mae cymaint o faterion yn wynebu pobl ifanc heddiw sydd angen ein gweddïau’n ddybryd. Gofynnwch i’r Arglwydd yn benodol i’ch arwain ynghylch beth i weddïo amdano neu gofynnwch i’r ysgol! Efallai y byddwch chi’n synnu pa mor barod a diolchgar y gall yr ysgol fod i wybod eich bod chi’n gweddïo drosti.
RYDYM YN CYDWEITHIO GYDA

